
Rhif y Ddeiseb: P-06-1522
Teitl y ddeiseb: Cynnull uwchgynhadledd i gyflymu buddsoddi cynaliadwy a moesegol gan bensiynau’r sector cyhoeddus.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gan wyth pensiwn Llywodraeth Leol
Cymru, a reolir drwy
Bartneriaeth Pensiynau Cymru, gyfanswm asedau gwerth £25
biliwn (31 Mawrth 2024). Mae polisi Buddsoddiad Cyfrifol, ond mae
asedau gwerth miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiadau sy’n
niweidiol i bobl a’r blaned megis tanwyddau ffosil,
datgoedwigo, arfau, a chwmnïau sy’n gysylltiedig â
thorri hawliau dynol.
Mae Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff
cyhoeddus ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau a gweithio
tuag at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a
diwylliannol Cymru.
Mae un o’r nodau llesiant yn galw am i Gymru fod yn
‘Genedl sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’. Mae Derek
Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi galw ar
gyrff cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad brys o fuddsoddiadau
pensiwn y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn foesegol ac yn
gynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae Rachel Reeves, Canghellor y DU, yn cynnig cyfuno
holl gronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru a Lloegr mewn nifer
fach o gronfeydd cyfun a newid eu trefniadau llywodraethu.
Mae’n hanfodol i gronfeydd Cymru gael eu cyfeirio at
fuddsoddiadau moesegol a chynaliadwy a all fod o fudd ymarferol i
bobl ac amgylchedd Cymru yn hytrach na chreu niwed yma a thramor.
e.e. tai cymdeithasol cynaliadwy, coedwigaeth adfywiol, ynni gwyrdd
lleol, trafnidiaeth werdd, adfer natur.
The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.
Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yn gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol a chyflogwyr eraill sy'n cymryd rhan. Dim ond gyda chymeradwyaeth Senedd y DU y gellir newid Rheolau a Rheoliadau'r Cynllun. Caiff y Cynllun ei weinyddu'n lleol gan gronfeydd pensiwn.
O dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016 mae’n ofynnol i awdurdodau gweinyddu nodi eu dull o fuddsoddi mewn datganiad strategaeth fuddsoddi, fel yr un hon gan Gronfa Bensiwn Gwynedd. Cafodd Canllawiau Llywodraeth y DU eu cyhoeddi yn 2017. Mae'n rhaid i'r datganiad gynnwys gwybodaeth benodol, gan gynnwys:
§ Polisi'r awdurdod ar sut y rhoddir sylw i ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol neu lywodraethu corfforaethol wrth ddewis, peidio â dewis, cadw a gwireddu buddsoddiadau
Yng Nghymru, mae wyth cronfa LGPS, pob un yn cael ei rhedeg gan awdurdod cyfansoddol:
§ Cyngor Gwynedd (Cronfa Bensiwn Gwynedd)
§ Cyngor Dinas Caerdydd (Cronfa Bensiwn Caerdydd a'r Fro)
§ Cyngor Sir y Fflint (Cronfa Bensiwn Clwyd)
§ Cyngor Sir Caerfyrddin (Cronfa Bensiwn Dyfed)
§ Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf)
§ Cyngor Sir Powys (Cronfa Bensiwn Powys)
§ Dinas a Sir Abertawe (Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe)
§ Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf)
Yn 2017, cafodd Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP) ei sefydlu. Mae hwn yn gydweithrediad o'r wyth cronfa LGPS sy'n cwmpasu Cymru gyfan. Fe'i sefydlwyd mewn ymateb i ofynion Llywodraeth y DU i gronfeydd pensiwn llywodraeth leol 'gyfuno' eu hasedau. Ei rôl yw cynghori'r awdurdodau cyfansoddol ar eu strategaethau buddsoddi, cynnal perfformiad buddsoddi a lleihau costau buddsoddi.
Buddsoddiadau cyfrifol
Yn ei Llawlyfr Llywodraethu, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn nodi 'Credoau', gan nodi:
Dylai Buddsoddi Cyfrifol a strategaethau effeithiol i leddfu Risg Hinsawdd, ynghyd ag ystyried a rheoli materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu ar sail tystiolaeth arwain at well deilliannau i randdeiliaid PPC.
Yn ei Pholisi Buddsoddi Cyfrifol, mae PPC yn nodi bod y ddogfen yn nodi polisi PPC ar fuddsoddi cyfrifol ar gyfer yr holl asedau a fuddsoddir yn y PPC.
Mae'n parhau gan nodi:
Wrth ddatblygu a gweithredu'r polisi hwn, bydd PPC yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016, Cod Ymarfer Cyffredinol y Rheoleiddiwr Pensiynau, unrhyw ganllawiau a ddarperir gan Fwrdd Cynghori'r Cynllun ("SAB"), Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (“DLUHC”) a Llywodraeth Cymru.
Mae'r polisi yn parhau drwy nodi:
Mae’r Awdurdodau Cyfansoddol yn gyfrifol yn unigol am bennu strategaeth fuddsoddi (a strwythur gwaelodol y strategaethau hynny, e.e. ehangder daearyddol) ar gyfer eu cronfeydd eu hunain sy'n adlewyrchu eu proffil aelodaeth a sefyllfa gyllido. Y strategaeth fuddsoddi yw'r rhaniad lefel uchel rhwng dosbarthiadau o asedau, rhestredig a phreifat, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ecwiti, dyled, eiddo ac isadeiledd. Rôl PPC yw darparu modd i bob Awdurdod Cyfansoddol weithredu'r strategaeth mae wedi cytuno arni.
Mae'r polisi Buddsoddi Cyfrifol hefyd yn nodi Polisi Risg Hinsawdd PPC a sut mae'n asesu risgiau portffolio:
8. Wrth ddatblygu a gweithredu’r polisi hwn, bydd y bartneriaeth yn ystyried Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016, Cod Ymarfer Cyffredinol y Rheoleiddiwr Pensiynau ac unrhyw ganllawiau perthnasol a ddarperir gan y Bwrdd Cynghori Cynllun, yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau a’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd. Bydd y polisi yn nodi canllaw Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diweddariad Blynyddol PPC
Yn ei Diweddariad Blynyddol ar gyfer 2023-24, nododd y PPC, "lansiodd PPC is-gronfa Ecwiti Gweithredol Byd-eang Cynaliadwy gwerth £1.2 biliwn,” gyda’i phartner, Russell Investments "yn rheoli datrysiad ecwiti gweithredol cynaliadwy aml-reolwr amrywiol a adeiladwyd yn unol â gofynion pwrpasol PPC".
Yn ôl Adroddiad Blynyddol 2023-24 PPC, mae gan yr Awdurdodau Cyfansoddol gyfanswm asedau o tua £25bn (ar 31 Mawrth 2024), ac mae £18.5bn ohono wedi'u buddsoddi yn is-gronfeydd presennol PPC.
Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i’r ddeiseb ar 2 Mai 2025. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud yn glir o'r dechrau bod cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yn "fater sydd wedi’i gadw yn ôl" i Senedd y DU, ac nad oes gan Lywodraeth Cymru "unrhyw bwerau mewn perthynas â'r cynllun na'i weithrediad".
Serch hynny, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru wedi cael deialog gydag arweinwyr awdurdodau cyfansoddol y Cynllun Pensiwn a’r PPC, ac yn parhau i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau am:
[y] camau yr oedd y Gronfa yn eu cymryd i gynyddu cyfleoedd i fuddsoddi mewn buddsoddiadau sy'n gadarnhaol yn yr hinsawdd ac i ystyried y risgiau a achosir gan fuddsoddi mewn cronfeydd sy'n gysylltiedig â thanwydd ffosil.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i adolygiad Llywodraeth y DU o bensiynau, sydd â'r bwriad o “roi hwb i fuddsoddiad, gan gynnwys buddsoddi mewn economïau lleol". Mae'r papur hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael:
[...] sicrwydd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod manteision cronfa LGPS sengl yng Nghymru, lle bydd gan gronfeydd partner ddiddordeb cydfuddiannol mewn buddsoddi yn economi Cymru, gan gynnwys mewn buddsoddiadau cynaliadwy.
Ym mis Mawrth 2022, gofynnodd Peter Fox AS i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, Rebecca Evans AS am gynlluniau pensiwn llywodraeth leol mewn perthynas â buddsoddiadau mewn cwmnïau a chronfeydd yn Rwsia. Wrth ymateb i'r cwestiwn, nododd y Gweinidog:
Rwyf wedi cael trafodaethau da iawn gyda chynrychiolwyr y cynllun pensiwn llywodraeth leol mewn perthynas ag amryw o faterion—er enghraifft, rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, sydd unwaith eto yn faes pryder cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Ym mis Mai 2022, cafodd Dadl Aelodau ar Ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus ei thrafod yn enw Jack Sargeant AS. Dywedodd yr Aelod ei fod wedi bod:
yn gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru ers peth amser bellach ar yr ymgyrch sy'n destun y cynnig heddiw: i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau ar gyfer dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu ei tharged ar gyfer 2030 i'r sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral gyda tharged i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus gyflawni'r un peth.
Cyfeiriodd yr Aelodau yn ystod y ddadl at y ffaith bod dros £500 miliwn o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol wedi cael eu buddsoddi mewn tanwydd ffosil, a nododd Cefin Campbell AS eu bod "yn cyfateb i ryw 3.2 y cant o werth y cynlluniau".
Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd fod Llywodraeth Cymru "yn cefnogi'r uchelgeisiau a nodir yn y cynnig i ddatgarboneiddio'r cynllun pensiwn sector cyhoeddus hynny" a:
[...] rhaid i bensiynau'r sector cyhoeddus, fel pensiynau eraill, ddatblygu dealltwriaeth gydlynol o’r allyriadau presennol a hanesyddol sydd ynghlwm wrth eu buddsoddiadau. Mae angen iddynt nodi cyfleoedd cadarnhaol i fuddsoddi mewn datblygiadau sy'n cefnogi'r newid i'r byd datgarbonedig.. Mae angen iddynt ddeall ac ymateb i'r risgiau ariannol y mae'r argyfwng hinsawdd yn eu creu.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.